Cartref y Chwedlau / Home is Where the Legends Are
Project gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yw 'Cartref y Chwedlau'. Caiff y project ei ariannu gan Gronfa Prifysgol Bangor, menter yr Is-Ganghellor, sy'n cefnogi meysydd o flaenoriaeth strategol i'r brifysgol ar 140 mlwyddiant Prifysgol Bangor (1884). Nodau’r project yw amlygu rôl ganolog Astudiaethau Cymreig, Celtaidd, ac Arthuraidd yn lleol yn ardal Prifysgol Bangor, ac yn y broses o sefydlu llyfrgell y brifysgol yn nechrau ei hanes, a hybu ysgolheictod, addysgu ac ymchwil pellach yn y meysydd hynny. Mae gwreiddiau'r project yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ac yn fodd hefyd i ddathlu casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint.
I gyd-daro â’r arddangosfa ar-lein bydd y Ganolfan yn cynnal cyfres o Ddarlithoedd Arthuraidd yn 2024, fel rhan o ddathliad 140 Prifysgol Bangor. Bydd hefyd raglen addysgol i’r ysgolion cynradd lleol ar gyfer y Cwricwlwm Creadigol Newydd yng Nghymru, o dan arweiniad yr Athro Radulescu gyda Gillian Brownson, storïwraig leol ac artist perfformiadol, a Maria Hayes, artist yn y celfyddydau cain.
***
‘Home is where the legends are’ is a Centre for Arthurian Studies project funded by the Bangor University Fund, the Vice-chancellor’s initiative, which supports areas of strategic priority for the university in the 140th anniversary year of Bangor University (1884). The aims of the project are to highlight the central role played by Arthurian and Celtic Studies in the local area around Bangor University, in the foundation of the university library at the inception of the university, and in shaping scholarship, teaching and further research in these fields. The project is grounded in Bangor University’s Archives and Special Collections, including a celebration of the Flintshire Harries Arthurian collection.
This online exhibit is complemented by the Centre’s 2024 Arthurian Lecture series, organised under the aegis of the 140th anniversary of Bangor University, and an educational programme for primary schools in the local area for the New Creative Curriculum in Wales, conducted by Prof. Radulescu with Gillian Brownson, local storyteller and performance artist, and Maria Hayes, fine artist.
Mae elfen ryngwladol i’r project, a ninnau'n cydweithio i greu ‘set rithwir o gasys arddangos’ ar y cyd â’r arddangosfa ‘Visualising Camelot’ a gynhelir am flwyddyn yn Llyfrgell Rossell Hope Robbins, Rochester, UDA, o gasgliadau preifat Dr Alan Lupack (aelod bwrdd allanol o’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a chyn Gyfarwyddwr Llyfrgell Rossell Hope Robbins) a'i wraig Dr Barbara Tepa Lupack.
Caiff y project ei gydlynu gan y Ganolfan, ac mae'n cyflwyno canlyniadau ymchwil a goruchwyliaeth gan staff y Ganolfan (Y Cyd-Gyfarwyddwyr, Yr Athro Raluca Radulescu a Dr Aled Llion Jones, a Rheolwr y Casgliadau Arbennig, Shan Robinson), y myfyrwyr PhD Claire Lober ac Aude Martin, a’r myfyriwr MA Joel Meredith. Mae cyfraniadau gan y cyn-fyfyrwyr Dr Ashley Walchester-Bailes, Dr Anastasija Ropa, cyn-fyfyrwyr MA Merlynn Spenser, Jessica Brandon a Maurita van Drogenbroek, hefyd yn rhan o’r arddangosfa, sydd hefyd yn dathlu 10 mlynedd ers dyfodiad casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint, a yn rhodd gan Gyngor Sir y Fflint yn 2014.
***
An international dimension of this project is the collaborative ‘virtual set of exhibition cases’ in the year-long Visualising Camelot exhibition at the Rossell Hope Robbins Library, Rochester, USA, from the private collections of Alan Lupack (external board member of the Centre for Arthurian Studies, formerly Director of the Rossell Hope Robbins Library) and his wife Barbara Tepa Lupack.
The project presents the outcomes of research and supervision from Centre staff (Co-directors Prof. Raluca Radulescu and Dr Aled Llion Jones; and Special Collections Manager Shan Robinson), PhD students Claire Lober and Aude Martin, and MA student Joel Romero-Meredith. Contributions from alumni Dr Ashley Walchester-Bailes, Dr Anastasija Ropa, MA alumna Merlynn Spenser, Jessika Brandon and Maurita van Drogenbroek, also feature in this exhibition, which also celebrates 10 years since the arrival of the Flintshire Harries Arthurian collection, donated by the Flintshire County Council in 2014.